Y Cyfarfod Llawn |
Dyddiad y
cyfarfod: |
|
|
|
||
Amser y
cyfarfod: |
||
|
||
|
||
|
Pleidleisiau a Thrafodion (161)v5 |
1 Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Dechreuodd yr eitem am 13.30
Gofynnwyd y 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.
2 Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Dechreuodd yr eitem am 14.16
3 Datganiad gan y Prif Weinidog: Yr Adolygiad o Wasanaethau Newyddenedigol yng ngogledd Cymru
Dechreuodd yr eitem am 14.30
4 Datganiad gan y Prif Weinidog: Y Gynhadledd Fawr - y camau nesaf
Dechreuodd yr eitem am 15.03
5 Datganiad gan y Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth: Paratoadau ar gyfer Tywydd y Gaeaf
Dechreuodd yr eitem am 15.42
6 Datganiad gan Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth: Adolygiad o'r Cyllid sydd ar gael i Fusnesau Bach a Chanolig yng Nghymru: Yr Ail Adroddiad
Dechreuodd yr eitem am 16.11
7 Datganiad gan y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi: Parhad a Newid - Adnewyddu'r Berthynas rhwng Llywodraeth Cymru a'r Trydydd Sector yng Nghymru
Dechreuodd yr eitem am 16.44
8 Cynnig i gymeradwyo Rheoliadau Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru) 2013
Dechreuodd yr eitem am 17.12
NDM5349 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5
Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o’r Rheoliadau Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru) 2013 yn cael ei lunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 14 Hydref 2013.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
9 Cynnig i gymeradwyo Rheoliadau Absenoldeb Teuluol ar gyfer Aelodau Awdurdodau Lleol (Cymru) 2013
Dechreuodd yr eitem am 17.21
NDM5350 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5
Yn cymeradwyo bod y fersiwn drafft o’r Rheoliadau Absenoldeb Teuluol ar gyfer Aelodau Awdurdodau Lleol (Cymru) 2013 yn cael ei lunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 15 Hydref 2013.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
10 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol mewn perthynas â'r Bil Archwilio ac Atebolrwydd Lleol
Dechreuodd yr eitem am 17.23
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
NDM5259 Alun Davies (Blaenau Gwent)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Archwilio ac Atebolrwydd Lleol sy’n ymwneud â’r trefniadau archwilio ar gyfer y Byrddau Draenio Mewnol y mae eu hardaloedd yn rhannol oddi fewn i Gymru, i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
28 |
0 |
29 |
57 |
Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y cynnig wedi’i ddiwygio. Felly, gwrthodwyd y cynnig.
11 Dadl: Cynlluniau'r GIG a Gwasanaethau Cymdeithasol i fod yn Barod ar gyfer y Gaeaf
Dechreuodd yr eitem am 17.43
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
NDM5348 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi gwaith GIG Cymru a’i bartneriaid wrth iddynt baratoi ar gyfer y gaeaf o’n blaenau.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Elin Jones (Ceredigion)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu at y penderfyniad i ohirio llawdriniaethau orthopedig yn ardal Hywel Dda.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
28 |
0 |
29 |
57 |
Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Felly, gwrthodwyd y gwelliant.
Gwelliant 2 - Elin Jones (Ceredigion)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu y dylid cynllunio ar gyfer pwysau’r gaeaf fel mater o drefn, ac na ddylai arwain at ddirywiad mewn gwasanaethau.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
56 |
0 |
0 |
56 |
Derbyniwyd gwelliant 2.
Gwelliant 3 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) cyhoeddi Cynllun Paratoi ar gyfer y Gaeaf Cenedlaethol blynyddol ar gyfer GIG Cymru; a
b) cytuno bod cynlluniau o’r fath yn destun gwerthusiad ar ôl eu rhoi ar waith er mwyn canfod pa mor effeithiol ydynt.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
56 |
0 |
0 |
56 |
Derbyniwyd gwelliant 3.
Gwelliant 4 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Rhoi pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu at gynlluniau arfaethedig Bwrdd Iechyd Lleol Hywel Dda i ohirio’r holl lawdriniaethau orthopedig dewisol dros y gaeaf.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
28 |
0 |
29 |
57 |
Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Felly, gwrthodwyd y gwelliant.
Gwelliant 5 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Rhoi pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi cynllun paratoi ar gyfer y gaeaf pob Bwrdd Iechyd Lleol.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
56 |
0 |
0 |
56 |
Derbyniwyd gwelliant 5.
Gwelliant 6 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Rhoi pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu at y ffaith y cafodd 2,600 o lawdriniaethau eu gohirio y llynedd oherwydd bod mwy o bwysau dros y gaeaf ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda Byrddau Iechyd Lleol er mwyn osgoi unrhyw achosion o oedi neu ganslo llawdriniaethau oherwydd pwysau’r gaeaf yn y dyfodol.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
28 |
0 |
29 |
57 |
Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Felly, gwrthodwyd y gwelliant.
Gwelliant 7 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Rhoi pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu at y ffaith bod 2,713 yn llai o welyau mewn ysbytai yng Nghymru nag a oedd yn 2003, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynyddu nifer y gwelyau sydd ar gael er mwyn helpu i ateb yr her a ddaw yn sgîl y galw dros y gaeaf.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 7:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
28 |
0 |
29 |
57 |
Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Felly, gwrthodwyd y gwelliant.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM5348 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi gwaith GIG Cymru a’i bartneriaid wrth iddynt baratoi ar gyfer y gaeaf o’n blaenau.
2. Yn credu y dylid cynllunio ar gyfer pwysau’r gaeaf fel mater o drefn, ac na ddylai arwain at ddirywiad mewn gwasanaethau.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) cyhoeddi Cynllun Paratoi ar gyfer y Gaeaf Cenedlaethol blynyddol ar gyfer GIG Cymru; a
b) cytuno bod cynlluniau o’r fath yn destun gwerthusiad ar ôl eu rhoi ar waith er mwyn canfod pa mor effeithiol ydynt.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi cynllun paratoi ar gyfer y gaeaf pob Bwrdd Iechyd Lleol.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
56 |
0 |
0 |
56 |
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.
Cyfnod Pleidleisio
Dechreuodd yr eitem am 18.40
Daeth y cyfarfod i ben am 18:44
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13:30, Dydd Mercher, 13 Tachwedd 2013